Cynhyrchir nifer o bosteri a thaflenni dwyieithog ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2008 a chânt eu dosbarthu i ysgolion, llyfrgelloedd a llyfrwerthwyr Cymru. Gellir gweld y posteri'n well, yn ogystal â darllen cynnwys y taflenni, trwy glicio arnynt.

Taflen o wybodaeth gychwynnol a bostiwyd i ysgolion Cymru ym mis Hydref 2007.

Dyma'r daflen gwybodaeth a syniadau a aeth i ysgolion uwchradd Cymru ym mis Ionawr 2008.

Cytunodd dau o enwogion gefnogi Diwrnod y Llyfr 2008 trwy gael tynnu eu lluniau ar gyfer posteri.

Dyma'r daflen gwybodaeth a syniadau a aeth i ysgolion cynradd Cymru ym mis Ionawr 2008.

Cynhyrchwyd 12,000 o bosteri yn seiliedig ar logo Diwrnod y Llyfr, a byddant i'w gweld ym mhob cwr o Gymru erbyn 6 Mawrth 2008!

Mae posteri Catrin Finch a Stephen Jones wedi eu dosbarthu i ysgolion uwchradd, llyfrgelloedd a siopau llyfrau ym mhob cwr o Gymru.


Cynhyrchwyd dau boster ar y cyd â World Book Day yn Lloegr ac fe'u dosbarthwyd i ysgolion, llyfrgelloedd, llyfrwerthwyr,
cylchoedd meithrin a chylchoedd chwarae. Mae'r darluniau gan Emily Gravett.

Cynhyrchwyd posteri arbennig i'w defnyddio mewn siopau llyfrau a llyfrgelloedd er mwyn arddangos manylion y digwyddiadau a drefnwyd.
Comisiynwyd Caryl Parry Jones a Chris Stephens i ysgrifennu cerddi yn arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2008.
Mae'r posteri hyn wedi eu dosbarthu i ysgolion cynradd Cymru.
Athrawon!
Mae yna weithgareddau'n seiliedig ar y cerddi hyn i'w cael trwy glicio isod.
Llyfrau
The
Treasure Chest of Tales
Cynhyrchwyd 50,000 o gardiau post dwyieithog Gair ar Led a'u dosbarthu i ysgolion, llyfrgelloedd a siopau llyfrau. Bwriad y cynllun yw annog pobl i ddefnyddio'r cardiau i argymell llyfrau i eraill.

